Yr Arglwydd Brittan
Mae’r cyn Ysgrifennydd Cartref Leon Brittan wedi marw ar ôl brwydr hir yn erbyn canser, meddai ei deulu.
Bu farw yn ei gartref yn Llundain neithiwr. Roedd yn 75 oed.
Yn ddiweddar roedd wedi bod ynghanol honiadau ei fod wedi methu a gweithredu ar dystiolaeth ynglŷn â cham-drin plant gan rai o ffigurau blaenllaw San Steffan yn yr 80au.
Roedd yr Arglwydd Brittan yn Ysgrifennydd Cartref rhwng 1983 a 1985 yng nghabinet Margaret Thatcher, ac yn llywydd y Bwrdd Masnach yn 1985/86, cyn treulio degawd ym Mrwsel rhwng 1989 a 1999 fel Comisiynydd Ewropeaidd y DU, ac is-lywydd y Comisiwn o 1989 i 1993.
Dywedodd ei deulu y bydd “colled enfawr ar ei ôl.”