Timau achub sydd wedi bod yn chwilio am weddillion yr awyren
Mae deifwyr yn Indonesia wedi tynnu chwech o gyrff eraill o’r dŵr ger gweddillion awyren AirAsia a blymiodd i’r môr fis diwethaf.

Mae tywydd garw wedi amharu ar ymdrechion y deifwyr i godi rhannau o’r awyren o ddyfnderoedd o tua 100 troedfedd ar wely’r môr.

Mae 59 o gyrff bellach wedi’u canfod ar safle’r ddamwain o’r 162 o bobl oedd ar fwrdd yr awyren.

Roedd ar ei ffordd o ddinas Surabaya yn Indonesia i Ynys Singapore pan ddigwyddodd y ddamwain.

Cadarnhaodd Pennaeth Pwyllgor Diogelwch Trafnidiaeth Cenedlaethol, Tatang Kurniadi, nad oedd unrhyw ddifrod bwriadol i’r awyren a bod data yn dangos bod yr awyren wedi esgyn yn anarferol o gyflym cyn plymio i’r dŵr.