Mae Cymdeithas Ddiwygio Etholiadol Cymru (ERS) wedi cefnogi galwadau i bobol ifanc 16 ac 17 oed gael pleidleisio yng Nghymru, gan ddweud bod angen “ailwampio’r broses ddemocrataidd hen-ffasiwn” sy’n bodoli ar hyn o bryd.
Yn ôl yr ERS, fe ddylai Cymru gael yr un pwerau a’r Alban dros etholiadau “ar frys”.
Daw wrth i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi deddfwriaeth ddrafft ar bwerau ychwanegol i’r Alban heddiw, sy’n cynnwys trethi , gwladwriaeth les a phwerau dros etholiadau.
Rhybuddiodd yr ERS bod amser yn brin i sicrhau bod Cymru yn cael gwneud ei phenderfyniadau ei hun dros etholiadau’r wlad a bod angen gweithredu yn fuan.
‘Cymru’n llusgo ei thraed’
Wrth drafod y cynnydd mae Llywodraeth yr Alban yn ei wneud, dywedodd cadeirydd ERS, Steve Brooks: “Mae’r cyhoeddiad heddiw wedi codi cwestiynau mawr i Gymru ac mae angen atebion ar frys.
“Fe fydd yr Alban yn cael pwerau i roi pleidlais i bobol 16 oed yn etholiadau 2016, ond mae Cymru yn llusgo ei thraed.
“Fe all y cyfle i gyflwyno’r un newid yng Nghymru gael ei golli ac mae hi ond yn deg ein bod ni’n cael y cynnig hwnnw fel ein bod yn medru llusgo’r broses ddemocrataidd Fictorianaidd bresennol i’r unfed ganrif ar hugain.”