Fe fyddai cynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad o 60 i 80 yn costio hyd at £9miliwn yn ychwanegol yn y flwyddyn gyntaf, meddai  adroddiad.

Yn ôl ymchwil gan Gomisiwn y Cynulliad, sy’n gyfrifol am weinyddu’r sefydliad, byddai’r newid yn “bris cymedrol a rhesymol”.

Ar hyn o bryd mae’n costio tua £50 miliwn y flwyddyn ar gyfer y 60 o Aelodau Cynulliad presennol.

Mae’r adolygiad yn awgrymu y byddai’r gost rhwng £7miliwn a £9miliwn ond yn rhybuddio y byddai 80 AC yn “parhau i fod yn isel”.

Fe fyddai cynyddu nifer yr aelodau i 100 yn costio rhwng £14miliwn a £17miliwn  gyda hynny’n “agosach at y norm Ewropeaidd”.

Cost 90 Aelod Cynulliad fyddai tua £11miliwn a £13miliwn yn ychwanegol.

‘Cynrychiolaeth ddemocrataidd’

Dywedodd yr adroddiad: “Yn ein barn ni, byddai hyn yn parhau i fod yn bris cymedrol a rhesymol i’w dalu am gynrychiolaeth ddemocrataidd effeithiol a fyddai’n arwain at fanteision fel craffu mwy effeithiol ar bolisi, deddfwriaeth a chyllid.”

Ychwanegodd yr adroddiad hefyd bod “gormod o bwysau” ar y 42 Aelod Cynulliad sydd ar y meinciau cefn ar hyn o bryd. Gyda mwy o bwerau’n cael eu datganoli i Fae Caerdydd fe fydd y “gwaith o graffu ar ddeddfwriaeth yn cynyddu’n sylweddol ac yn gyflym,” meddai.

‘Craffu’

Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad a Chadeirydd y Comisiwn: “Caiff ein dadl ei llywio gan yr awydd i roi cyfle realistig i aelodau graffu ar bolisïau, gweinyddiaeth, gwariant a chynigion deddfwriaethol Llywodraeth Cymru mewn ffordd mor gadarn ag y mae pobl Cymru yn ei haeddu.

“Gyda dim ond 60 o Aelodau, mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn fach yn ôl unrhyw gymhariaeth leol, genedlaethol neu ryngwladol wrthrychol.

“Does dim digon o Aelodau’r Cynulliad o bell ffordd, yn enwedig o ran eu gwaith pwyllgor, a bydd y pwysau yn dwysáu wrth i’n cyfrifoldebau deddfwriaethol a chyllidol gynyddu.”

Mae’r costau yn seiliedig ar gyflogau aelodau, staff, a chostau eraill gan gynnwys swyddfeydd a chyfraniadau pensiwn. Ond ni wnaeth yr adroddiad ystyried y gost o addasu’r Siambr i ddarparu ar gyfer rhagor o ACau.

Cyfanswm cyllideb gyfredol Comisiwn y Cynulliad yw tua £52.6 miliwn, sy’n cynrychioli 0.3% o Floc Grant Cymru, sef cyllideb £15 biliwn y Llywodraeth. Byddai’r uchafswm cost, sy’n gysylltiedig â symud i 80, 90 neu 100 o aelodau, yn addasu’r ffigwr hwnnw i 0.4% o’r Bloc.

‘Perygl’

Ychwanegodd Rosemary Butler:  “Rydym am i’r Cynulliad hwn fod yn sefydliad democrataidd cryf, hygyrch a blaengar, ac sy’n ddeddfwriaethu dros bobl Cymru.

“Mae Aelodau’r Cynulliad wedi cyflawni llawer i sicrhau hyn ers sefydlu’r Cynulliad.

“Fodd bynnag, bydd cryfder a llwyddiant datganoli yng Nghymru yn y dyfodol mewn perygl os na fyddwn yn cymryd camau i gyfateb maint y sefydliad â maint y dasg.”