Jocelyn Davies
Mae cais i wahardd rhieni rhag taro plant wedi ei wrthod gan un o bwyllgorau’r Cynulliad.
Pleidleisiodd Aelodau Cynulliad y Pwyllgor Cymunedau yn erbyn gwelliant gan Jocelyn Davies o Blaid Cymru i fil i’w wneud yn anghyfreithlon i daro plant, o 6 i 4.
Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod gan y Cynulliad y pŵer i newid y gyfraith ond mae hi wedi gwrthod gwneud hynny. Mater i faniffestos y pleidiau yn etholiad 2016 yw hynny, meddai.
Roedd y gwelliant i’r Bil Trais ar Sail Rhywedd a Cham-drin Domestig yn diddymu’r amddiffyniad o “gosb resymol” am ymosod ar blentyn.
Byddai’r newid, yn ôl Jocelyn Davies, yn “anfon neges glir” nad yw’n dderbyniol i daro plant. Ychwanegodd bod “llywodraeth ar ei gorau pan mae hi’n gweithredu’n bendant ac yn dewis arwain wrth newid barn gyhoeddus”.
Fe bleidleisiodd cadeirydd Llafur y pwyllgor, Christine Chapman, yn erbyn y llywodraeth.
Dywedodd: “Rwy’n siomedig iawn bod Llywodraeth Cymru, sydd wedi cefnogi ac ymgyrchu dros hyn am flynyddoedd, wedi methu gwneud y peth iawn”.
Yn ôl Leighton Andrews, y Gweinidog sy’n gyfrifol am y bil, nid oedd y gwelliannau i wahardd taro plant wedi cael eu “hystyried yn ddigonol”.
Pleidleisiodd y pedwar aelod Llafur o’r pwyllgor, Gwyn Price, Sandy Mewies, Mike Hedges ac Alun Davies, yn ogystal â dau Geidwadwr, Janet Finch-Saunders a Mark Isherwood, yn erbyn y gwelliant gan gefnogi’r Llywodraeth.
Mae Aelodau Cynulliad wedi pleidleisio o blaid gwaharddiad yn y gorffennol.