Mae ymgyrchwyr iaith wedi dweud bod penderfyniad Cyngor Sir Dinbych i gymeradwyo cais cynllunio amlinellol i adeiladu 1,700 o dai ym Modelwyddan yn dangos ei bod yn hollbwysig sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i’r Bil Cynllunio.

Daeth y cyhoeddiad gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg  ar ôl i aelodau o Gyngor Sir Ddinbych roi sêl bendith i’r cynllun a fyddai’n treblu maint y pentref.

Roedd swyddogion y Pwyllgor Cynllunio a bleidleisiodd o blaid y cynllun yn dweud bod angen tai newydd fforddiadwy yn yr ardal.

Ond mae Aled Powell ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi mynnu fod y sustem gynllunio yn ddiffygiol.

Dywedodd: “Yn anffodus dyma oedd penllanw pum mlynedd o ymgyrchu ac o gyd-weithio rhwng y Gymdeithas a grŵp Achub Bodelwyddan ac rydym, yn naturiol ddigon, wedi ein tristau yn fawr gan y penderfyniad hwn.”

‘Llais cymunedau yn golygu dim’

Ychwanegodd: “Daeth hi’n amlwg iawn i mi, yn ystod y cyfarfod, bod gennym yng Nghymru, system gynllunio sy’n milwrio yn erbyn, nid yn unig ein cymunedau, ond llais democrataidd ein cymunedau. Wedi’r holl lythyru yn erbyn y cynllun, wedi refferendwm cymunedol, yr holl brotestio a lobio, mae’n amlwg iawn heddiw, bod llais ein cymunedau yn golygu dim yn y drefn sydd ohoni.”

O ganlyniad i’r penderfyniad hwn, mae’r mudiad iaith yn mynnu fod angen gosod y Gymraeg yn ganolog yn y Bil Cynllunio newydd.

Meddai, “Dyma ddangos yn glir bod rhaid cael trefn gynllunio newydd yng Nghymru, sydd yn gosod yr angen am dai yn lleol yn ganolog, a gosod y Gymraeg yn ystyriaeth gynllunio berthnasol. Mae’r hyn sydd wedi digwydd ym Modelwyddan yn enghraifft berffaith i Lywodraeth Cymru o sut mae’r system gynllunio yn gweithio yn erbyn cymunedau Cymru.”

Ychwanegodd: “Dyna paham felly bod rhaid i’r Bil Cynllunio newydd osod y Gymraeg a llais ein cymunedau yn ganolog, fel arall, mi fydd Cymru o Fôn i Fynwy yn frith o enghreifftiau tebyg i Fodelwyddan yn ystod y blynyddoedd nesaf.”