Nicola Sturgeon a Leanne Wood
Mae Prif Weinidog yr Alban wedi cadarnhau y byddai ei phlaid, yr SNP, yn ystyried cydweithio gyda Phlaid Cymru a’r Gwyrddion i greu clymblaid gyda Llafur wedi’r Etholiad Cyffredinol.
Fe allai’r tair plaid gael dylanwad ‘cymedrol’ ar bolisïau Llywodraeth Lafur, meddai Nicola Sturgeon wrth y BBC yn Llundain.
Roedd ei sylwadau eraill hefyd yn berthnasol i Gymru – fe fydd ASau’r SNP, meddai, yn dal ati i bleidleisio yn San Steffan ar rai materion sydd wedi’u datganoli.
Yr enghraifft amlwg, meddai, oedd iechyd, lle mae penderfyniadau ar wario yn Lloegr yn cael effaith ar faint o arian sydd ar gael i’w wario ar iechyd yn yr Alban – yn union fel yng Nghymru.
Gwaith aelodau’r SNP oedd mynd i San Steffan i ymladd achos yr Alban, meddai.