Mae nifer y troseddau treisgar wedi cynyddu 18% yng Nghymru er mai ychydig iawn o gynnydd fu yn lefel troseddau yn gyffredinol, yn ôl ffigurau swyddogol.
Ar draws Cymru fe fu 38,000 o droseddau treisgar- cynnydd o 18% – ynghyd a 14 o lofruddiaethau, yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2014.
Cafodd cyfanswm o 177,732 o droseddau eu cofnodi, cynnydd o 3%, yn ôl yr arolwg troseddau swyddogol.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol mae’r cynnydd mewn troseddau treisgar o ganlyniad i ragor o bobl yn adrodd am y troseddau.
Heddlu De Cymru oedd wedi gweld y cynnydd mwyaf – 4% – mewn troseddau gafodd eu cofnodi.
Roedd Gwent wedi gweld cynnydd o 3% a Dyfed Powys, 1%, tra bod Heddlu Gogledd Cymru wedi aros yr un fath, yn unol â’r cyfartaledd ar draws y DU.
Ar gyfartaledd roedd troseddau yn ymwneud a cherbydau, byrgleriaethau a lladradau wedi gostwng yng Nghymru, yn ôl yr arolwg.
Ar draws Cymru a Lloegr, roedd troseddau wedi gostwng i’w lefel isaf, er gwaethaf cynnydd mewn rhai troseddau o ganlyniad i newidiadau yn y modd mae’r heddlu’n eu cofnodi.