Darren Millar
Mae’r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi cyhuddo’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru o wario miloedd o bunnoedd er mwyn rhentu ceir drud i’w rheolwyr, er gwaethaf y toriadau hanesyddol diweddar i’r gwasanaeth.

Yn ôl y Ceidwadwyr, fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wario £59,000 ar geir – gan gynnwys dau Audi A6 ac Audi A5 – i’w uwch swyddogion yn y tair blynedd ddiwethaf, gyda chostau rhentu ar brydles yn cael eu had-dalu trwy doriadau mewn cyflog staff eraill.

Mae’r blaid yn honni bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi darparu Audi TT coupe, BMW a Mercedes Benz i rai o’i uwch-relowyr.

Roedd y ceir gafodd eu rhentu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cynnwys BMW 118D ES coupe ar gost o £1,511 ac mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro brydles am o leiaf dau gar ers 2012, meddai’r Ceidwadwyr.

Dim ond un o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru, Cwm Taf, sydd ddim wedi darparu uwch-swyddogion gyda cheir fel rhan o’u cytundebau.

Dywed y Ceidwadwyr bod cyfanswm y gost am geir drud i reolwyr y GIG dros y tair blynedd ddiwethaf wedi cyrraedd £90,379.48.

‘Dim cyfiawnhad’

“Wrth i gleifion y GIG wynebu cyfnodau aros hir am driniaeth, mae penaethiaid y GIG yn ei gweld hi’n addas i wario ar geir drud iddyn nhw eu hunain,” meddai llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Darren Millar.

“Mae rheolwyr yn cael digon o gyflog yn barod – dwi’n hyderus eu bod yn medru fforddio eu ceir eu hunain.

“Alla’i ddim meddwl am unrhyw fath o gyfiawnhad dros pam bod rhaid i fyrddau iechyd ddefnyddio arian y trethdalwyr i brynu ceir – fe all yr arian gael ei ddefnyddio tuag at benodi mwy o ddoctoriaid, nyrsys a pharafeddygon.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan yr holl fyrddau iechyd.

Ymateb Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: “Ad-delir i staff y GIG am ddefnyddio eu ceir eu hunain at ddibenion gwaith yn unol â’r cyfraddau a osodir dan Daliadau Lwfans Milltiredd Cynaladwy Cyllid a Thollau ei Mawrhydi.

“Rydym yn darparu car les, sydd un ai’n Ford Fiesta neu VW Polo sylfaenol, pan fyddai hynny’n costio’r un faint neu’n rhatach i’r Bwrdd Iechyd. Mae gweithwyr yn talu cyfraniad i’r Bwrdd Iechyd i adlewyrchu unrhyw ddefnydd personol o’r car, ac maen nhw’n talu costau llawn unrhyw waith uwchraddio i fodel neu fanyleb y car les sy’n uwch na model sylfaenol.  Mae’r staff hyn sydd â cherbydau les defnydd personol y Bwrdd Iechyd yn cael cyfraddau ad-daliad is am danwydd.

“Nid yw Cyfarwyddwyr Gweithredol yn cael eu trin yn wahanol i weithwyr eraill o ran hyn ac maen nhw’n talu am unrhyw waith uwchraddio i’w cerbyd les.”