Senedd yr Alban, Holyrood
Fe fydd deddfwriaeth i roi pwerau newydd i’r Alban yn helpu i ddiogelu “dyfodol unedig” y DU, meddai’r Prif Weinidog heddiw.

Daeth sylwadau David Cameron wrth i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi 44 o fesurau drafft a fydd yn sylfaen i ddeddfwriaeth newydd i’r Alban.

Roedd David Cameron, ynghyd ag arweinwyr y prif bleidiau yn San Steffan, wedi rhoi addewid y byddai’n datganoli rhagor o bwerau i’r Alban petai’n gwrthod y refferendwm ar annibyniaeth yn llynedd.

Mae’r Prif Weinidog eisoes wedi rhoi addewid y byddan nhw’n dod i rym yn ystod y Senedd nesaf, waeth pwy sy’n ennill yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.

Mae gweinidogion yn San Steffan yn mynnu y bydd y cynlluniau yn trawsnewid Senedd yr Alban i fod yn un o’r cynulliadau datganoledig mwyaf pwerus yn y byd.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi croesawu’r newidiadau, a gafodd eu hargymell gan Gomisiwn Smith, ond yn dadlau nad ydyn nhw’n mynd yn ddigon pell.

Fe fydd y pwerau newydd yn golygu bod yr Alban yn gallu rheoli a gosod cyfraddau treth incwm ei hun, ac yn golygu bod unrhyw arian sy’n cael ei godi yno yn aros yn yr Alban, yn hytrach na chael ei roi i’r Trysorlys.

Fe fydd Holyrood hefyd yn cael pwerau newydd dros les, ac er y bydd y Credyd Cynhwysol newydd yn aros o dan reolaeth San Steffan, fe fydd Senedd yr Alban yn gallu newid rhai elfennau megis y “dreth ystafell wely” ddadleuol.