Eglwys Bodelwyddan
Mae aelodau o Gyngor Sir Ddinbych wedi rhoi sêl bendith i gais cynllunio amlinellol i godi dros 1,700 o dai newydd ym Modelwyddan, cynllun a fyddai’n treblu maint y pentref.
Roedd swyddogion y Pwyllgor Cynllunio a bleidleisiodd o blaid y cynllun yng nghyfarfod y cyngor heddiw yn dweud bod angen tai newydd fforddiadwy yn yr ardal.
Ond mae gwrthwynebiad brwd wedi bod yn lleol, gyda thrigolion yn dweud bod y datblygiadau arfaethedig yn rhy fawr ac yn effeithio ar gymuned Gymraeg y pentref.
Roedd 15 aelod o blaid a naw yn erbyn y cais, gydag un aelod yn ymatal ei bleidlais.
Y datblygiad
Mae’r cynlluniau yn cynnwys 1,715 o dai newydd, cartref gofal, gwesty hyd at 100 ystafell wely, ysgol gynradd a dwy ganolfan.
Barwood Land and Estates sy’n cyflwyno’r cais cynllunio ac mae’r cwmni datblygu o’r farn y byddai’r cynllun yn “darparu twf tymor hir cynaliadwy.”
Fe ddechreuodd ymgynghoriad ar y cynllun ym mis Hydref 2009 gyda’r cais cynllunio yn cael ei gyflwyno ym mis Rhagfyr 2013.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn credu bod angen darparu 7,500 o gartrefi newydd erbyn 2021, er mwyn cwrdd ag anghenion yr ardal.
Dangosodd Cyfrifiad 2011 mai dim ond 600 oedd cynnydd poblogaeth Sir Ddinbych yn y degawd diwetha’.
Gwrthwynebiad
Mae pryder y byddai datblygiad mor fawr yn rhoi straen ar gymuned Gymraeg Bodelwyddan ac mae ymgyrchwyr yn dweud bod angen selio’r datblygiad ar angen lleol.
Mewn protest yn Rhuthun gafodd ei threfnu ar y cyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a Grŵp Gweithredu Bodelwyddan, dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith:
“Ein dadl ni yw bod y datblygiad arfaethedig ym Modelwyddan yn enghraifft o broblem ehangach gyda’r system gynllunio, sydd yn rhoi buddiannau datblygwyr o flaen anghenion lleol.”