Fe fydd Cyngor Sir Ddinbych yn trafod cais cynllunio amlinellol dadleuol i godi dros 1,700 o dai newydd ym mhentref Bodelwyddan yn ddiweddarach heddiw.
Mae gwrthwynebiad brwd wedi bod i’r cynllun oherwydd ofnau y byddai’n treblu maint y pentref ger ffordd ddeuol yr A55.
Byddai’n cynnwys 1,715 o dai newydd, cartref gofal, gwesty hyd at 100 ystafell wely, ysgol gynradd a dwy ganolfan.
Barwood Land and Estates sy’n cyflwyno’r cais cynllunio ac mae’r cwmni datblygu o’r farn y byddai’r cynllun yn “darparu twf tymor hir cynaliadwy.”
Ond mae trigolion lleol yn dweud bod angen i unrhyw ddatblygiadau arfaethedig gael eu seilio ar angen lleol ac mae sawl protest wedi cael eu cynnal i wrthwynebu’r bwriad.
‘Buddiannau datblygwyr o flaen anghenion lleol’
Fe ddechreuodd ymgynghoriad ar y cynllun ym mis Hydref 2009 ac mae’r cyngor yn dweud bod y cynllun yn ceisio ateb y galw am brinder tai yn y sir.
Mewn protest yn Rhuthun gafodd ei threfnu ar y cyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a Grŵp Gweithredu Bodelwyddan, dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith:
“Ein dadl ni yw bod y datblygiad arfaethedig ym Modelwyddan yn enghraifft o broblem ehangach gyda’r system gynllunio, sydd yn rhoi buddiannau datblygwyr o flaen anghenion lleol.”
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn credu bod angen darparu 7,500 o gartrefi newydd erbyn 2021, er mwyn cwrdd ag anghenion yr ardal.
Dangosodd Cyfrifiad 2011 mai dim ond 600 oedd cynnydd poblogaeth Sir Ddinbych yn y degawd diwetha’.