Fe allai bywydau llawer mwy o fenywod gael eu hachub gan brawf newydd mwy sensitif i brofi am drawiad ar y galon, yn ôl meddyg blaenllaw.

Mae ymchwil ynglŷn ag effeithlonrwydd y prawf yn cael ei gynnal yn yr Alban ar hyn o bryd.

Y gobaith yw y bydd yn cadarnhau ymchwil blaenorol sy’n dangos y gallai dwywaith cymaint o fenywod gael diagnosis o drawiad ar y galon drwy ddefnyddio’r prawf amgen troponin.