Arlywydd Barack Obama
Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi dweud bod angen i’r Gyngres a phobl America wneud rhagor i helpu’r difreintiedig a’r dosbarth canol.

Yn ei anerchiad blynyddol i’r Gyngres, dywedodd Obama bod angen dod a’r gwrthdaro gwleidyddol i ben, sydd wedi bod yn amlwg yn ystod ei chwe blynedd wrth y llyw.

Mae gan y Gweriniaethwyr bellach fwyafrif yn y Gyngres.

Mae’r Arlywydd hefyd wedi cyhoeddi cynlluniau i gyflwyno trethi uwch ar gyfer y cyfoethocaf yn y wlad.