Isaac Nash
Mae cwest i farwolaeth bachgen 12 oed aeth ar goll yn y môr ger Aberffraw, Ynys Môn yn ystod gwyliau’r haf yn cael ei gynnal heddiw.
Roedd Isaac Nash, o Huddersfield yn Swydd Efrog, a’i frawd bach Xander Nash, 10, ar wyliau gyda’u teulu pan gafodd y ddau eu llusgo i’r môr gan donnau garw ar 29 Awst y llynedd.
Cafodd Xander Nash ei achub o’r dŵr, ond fe ddywedodd Adam Nash, tad y ddau frawd, nad oedd o wedi medru achub Isaac Nash.
Bydd y gwest yn cael ei chynnal yn swyddfeydd Cyngor Sir Ynys Môn yn Llangefni.