Phil Bale, Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd
Bydd Cyngor Dinas Caerdydd yn cynnig cael gwared a phedair swydd yn ei dîm rheoli fel rhan o doriadau i’w gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Os bydd y Cabinet a’r Cyngor yn cymeradwyo’r cynnig, bydd nifer aelodau o dîm rheoli’r Cyngor yn cael ei gwtogi o 11 i saith swydd a fyddai’n arbed £650,000, yn ôl y cyngor.
Er na fydd yr ad-drefnu yn cael fawr o effaith ar rai swyddi, bydd y cynigion yn gweld rhai swyddi’n cael eu huno.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale: “Ar adeg o bwysau ariannol difrifol mae’n bwysig adolygu’r Cyngor o’r brig i’r bôn er mwyn sicrhau bod y gyllideb yn cael ei dyrannu’n effeithiol ar draws y sefydliad.
“Un o’r canfyddiadau allweddol ddaeth i’r amlwg yn sgil Sgwrs Caerdydd oedd y galwadau mynych i dorri strwythur rheoli’r Cyngor, gan fod pobl o’r farn bod gormod o uwch-reolwyr.
“Mae gan Gaerdydd fwy o rolau ar lefel cyfarwyddwr na’r rhan fwyaf o gynghorau ledled y Deyrnas Unedig, ac ar ôl cynnal adolygiad trylwyr o’r sefyllfa, rydym o’r farn bod uno’r rolau hyn yn gweddu â’n blaenoriaethau gan ein gwneud ni’n fwy cynaliadwy a’n galluogi i addasu i’r heriau a wynebir.
“Bydd y broses ad-drefnu yn ein galluogi i barhau i ganolbwyntio ar feysydd allweddol megis addysg a gwasanaethau plant.”