Mae mudiad Cyfeillion y Ddaear wedi mynegi pryder y gallai ymgynghoriad presennol Llywodraeth Cymru ynglŷn â delio â gwastraff niwclear arwain at gladdfa yn dod i Gymru.

Fe ddatgelodd Golwg llynedd fod Llywodraeth Prydain yn ceisio canfod safle i gladdu gwastraff niwclear lefel uchel, ac y gallai safleoedd yng Nghymru gael eu hystyried.

Ar hyn o bryd does gan Lywodraeth Cymru ddim safbwynt ar y mater, ond maen nhw wrthi’n cynnal ymgynghoriad i weld a ddylen nhw newid hynny ac maen nhw ar hyn o bryd yn ffafrio’r opsiwn o gladdfa tanddaearol.

Ond mae’r mudiad amgylcheddol wedi mynnu na ddylai unrhyw wastraff o Loegr gael ei gladdu mewn safle o’r fath yng Nghymru.

Gwastraff Lloegr yng Nghymru?

Wrth ymateb i’r ymgynghoriad fe gododd Cyfeillion y Ddaear Cymru bryderon y gallai dros 400,000m3 o wastraff niwclear ymbelydredd uchel gael ei chladdu yn y storfa danddaearol.

Dywedodd y mudiad fod Lloegr yn cynhyrchu 18 gwaith yn fwy o wastraff niwclear nag y mae Cymru, ac y dylai Llywodraeth Cymru felly fynnu cyfrifoldeb dros wastraff Cymru yn unig.

“Mae Llywodraeth yr Alban wedi penderfynu delio â’i gwastraff niwclear ei hun a pheidio â derbyn baich gwastraff o Loegr,” meddai cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear, Gareth Clubb.

“Dylai Llywodraeth Cymru ddilyn esiampl yr Alban a chymryd cyfrifoldeb am wastraff niwclear Cymru yn unig.

“Wrth ddilyn cynlluniau San Steffan mae Llywodraeth Cymru’n rhedeg y risg o weld Cymru’n cael ei throi mewn i domen ar gyfer yr holl wastraff niwclear sydd erioed wedi cael ei greu ym Mhrydain.

Cymuned yn gwirfoddoli

Mae Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio y byddai’n rhaid i gymuned gynnig ei hun yn wirfoddol ar gyfer claddfa wastraff niwclear cyn y gellir ei hadeiladu.

Yn ôl dogfennau CoRWM, corff y llywodraeth sydd yn gyfrifol am ddelio â gwastraff niwclear, fe fyddai cymunedau sydd eisoes â safleoedd niwclear yn fwy tebygol o dderbyn claddfa o’r fath.

Ac mae hynny wedi arwain at bryder y gallai claddfa gael ei hadeiladu yn ardal Wylfa neu Trawsfynydd – rhywbeth mae gwleidyddion lleol eisoes wedi gwrthwynebu.

“Yr unig gymuned yn Lloegr roedden nhw’n credu oedd yn debygol o wirfoddoli i gynnal tomen wastraff niwclear oedd Cumbria – ac fe wnaethon nhw wrthod y syniad yn llwyr,” meddai Gareth Clubb.

“Bydd gweinidogion sifil a gwleidyddion yn San Steffan yn llyfu eu gweflau ar y posibilrwydd o waredu’r broblem ddrud a hynod o beryglus yma ar bobl Cymru.

“A’r peth olaf rydyn ni angen yw cynhyrchu mwy o’r gwastraff peryglus yma. Dylai Llywodraeth Cymru gydnabod y peryglon sydd yn gysylltiedig â phwerdy niwclear newydd yn Wylfa.”

Ymgynghoriad

Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru fod yn rhaid iddyn nhw ddweud wrth yr Undeb Ewropeaidd beth yw eu safbwynt ar sut i gael gwared â gwastraff niwclear yn ddiogel erbyn haf 2015.

Mae gan Brydain eisoes gwerth 60 mlynedd o wastraff niwclear yn deillio o ddatblygiadau milwrol a phwerdai, a pholisi Llywodraeth San Steffan yw ei gladdu mewn storfa danddaearol.

Llywodraeth Cymru yw’r unig lywodraeth ddatganoledig sydd heb ddatgan eu safbwynt eto – mae Llywodraeth yr Alban yn ffafrio adeiladu storfeydd yn agosach i wyneb y ddaear yn hytrach nag yn ddwfn o dan ddaear.

Yn y ddogfen ymgynghorol mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod â’r ddwy ffordd o ddelio â’r gwastraff, ond yn dweud nad ydyn nhw wedi gweld “unrhyw dystiolaeth” eto i awgrymu bod claddfa yn agos at y wyneb yn fwy diogel nag un tanddaearol.

Mae’r ymgynghoriad ar agor tan ddydd Iau.