Bydd ASau yn trafod dyfodol y rhaglen arfau niwclear Trident yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw wedi i bwnc y ddadl gael ei dewis ar y cyd gan Blaid Cymru, y Blaid Werdd a’r SNP.

Mae’r cynnig wedi cael ei gynnig yn enwau Elfyn Llwyd a Hywel Williams o Blaid Cymru, yn ogystal ag Angus Robertson, Stewart Hosie a Pete Wishart o’r SNP a Caroline Lucas o’r Blaid Werdd.

Mae’r tair plaid yn gwrthwynebu adnewyddu’r rhaglen arfau niwclear a bydd Aelodau Seneddol yn trafod y mater yn y Senedd.

Mae’r rhaglen i gymryd lle arfau niwclear y DU o 2028 ymlaen yn parhau i fynd rhagddo. Ym mis Rhagfyr 2012, cyhoeddodd y Llywodraeth ei adroddiad diweddaru cyntaf i’r Senedd ar raglen adnewyddu Trident ac ym mis Gorffennaf 2013 cyhoeddwyd adolygiad oedd yn rhestru dewisiadau eraill sydd ar gael yn hytrach na Trident.

Ond mae llefarydd amddiffyn yr SNP heddiw wedi beirniadu’r Blaid Lafur oherwydd eu bod nhw’n bwriadu osgoi’r ddadl ar Trident.

Yn ôl arolwg barn newydd a gyhoeddwyd yn y Daily Record heddiw, mae 45.7% o’r 1,006 o drigolion Yr Alban a holwyd yn erbyn adnewyddu Trident.

Meddai Angus Robertson AS: “Mae’r gwrthwynebiad i adnewyddu Trident yn ymestyn ar draws pob rhanbarth o’r Alban, ond yn fwyaf amlwg yn Glasgow ble mae 70% yn gwrthwynebu, ac yng ngorllewin yr Alban lle mae 63% yn erbyn ei adnewyddu.

“Does dim rhyfedd bod ASau Llafur heddiw wedi eu cywilyddio gan gefnogaeth eu plaid ar gyfer cenhedlaeth newydd o arfau niwclear – ond ddylen nhw o leiaf fod yn ddigon dewr i geisio amddiffyn eu penderfyniad yn hytrach na chuddio oddi wrth y drafodaeth a gobeithio na fydd pobl yr Alban yn sylwi.”