Mae strategaeth a phrosbectws ar gyfer Parc Arfordir Sir y Fflint wedi cael cymeradwyaeth gan gynghorwyr y sir mewn cyfarfod cabinet heddiw.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys chwech o ganolfannau ar hyd arfordir y sir – ym Mhorth y Gogledd, Doc Cei Connah, Glannau’r Fflint, Cilfach Bagillt a Bettisfield Hill, Maes-glas a Thalacre – lle bydd pobl yn gallu cael mynediad i Lwybr Arfordir Cymru a’r llwybr beicio.

Mae’r ddogfen gafodd ei chymeradwyo hefyd yn nodi blaenoriaethau Parc Arfordir Sir y Fflint, sy’n cynnwys gwella twristiaeth, gweithgareddau hamdden a diwylliannol; gwella mynedfeydd, ac adfywio’r dociau.

Mae’n rhoi manylion gweledigaeth ar gyfer Parc Arfordir Sir y Fflint yn 2034, gan ragweld amgylchedd hygyrch o ansawdd uchel gyda darpariaeth twristiaeth a hamdden ffyniannus a threftadaeth ddiwylliannol enwog.

‘Enw da’

Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd a’r Dirprwy Arweinydd:

“Rydym yn hynod o falch o arfordir bras ac amrywiol Sir y Fflint.

“Mae sefydlu fframwaith ar gyfer Parc Arfordir Sir y Fflint yn sicrhau bod gennym ddull cydgysylltiedig i ofalu am ein hamgylchedd arfordirol a bod ein harfordir yn cadw ei enw da fel cyrchfan ar gyfer twristiaeth a gweithgareddau hamdden.”