Mae pwyllgor seneddol wedi annog Llywodraeth San Steffan i wneud mwy i amddiffyn ffermwyr llaeth yn wyneb y gostyngiad diweddar ym mhris llaeth.

Ers yr haf diwethaf, mae cwymp mewn prisiau llaeth wedi achosi “straen ariannol mawr” i fusnesau ffermio yng Nghymru a Lloegr – gyda chynnydd mewn cyflenwad a gostyngiad yn y galw o dramor yn cael y bai am hynny.

Yn sgil hyn, mae’r Pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (EFRA) wedi galw ar y Llywodraeth i ymestyn gwaith Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd (GCA) mewn cynllun sy’n monitro archfarchnadoedd i weld a ydyn nhw’n cymryd mantais o fusnesau llai, i gynnwys ffermwyr llaeth.

Ar hyn o bryd, dim ond yr hawl i ymchwilio i gwynion gan gyflenwyr uniongyrchol i’r 10 archfarchnad fawr sydd gan Ddyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd.

Mae’r pwyllgor hefyd wedi galw ar weinidogion i roi cymorth i ffermwyr i wella cysylltiad hefo gwledydd tramor ac i’r Undeb Ewropeaidd gynnal adolygiad o brisiau isel mewn archfarchnadoedd.

Ansefydlogrwydd

“Nid yw’r rhan fwyaf o ffermwyr llaeth yn cael cymorth gan Ddyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd am fod eu busnesau mor fach,” meddai Cadeirydd y pwyllgor, Anne McIntosh.

“Ond mae ansefydlogrwydd y farchnad laeth rhyngwladol yn ei gwneud hi’n amhosib i gynhyrchwyr llai fedru cynllunio’n ariannol.”

“Mae’r Pwyllgor Efra yn credu bod hyn yn anghywir ac y dylai gwaith y Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd gynnwys cynhyrchwyr llai.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu ffermwyr ymdopi gyda “natur fregus y farchnad ryngwladol.”

‘Archfarchnadoedd yn dibrisio’

Ddoe, bu aelodau o Undeb Amaethyddol Cymru yn Sir Gaernarfon yn trafod yr argyfwng presennol hefo’r Aelod Cynulliad lleol, Alun Ffred Jones.

Dywedodd yr Is-gadeirydd Sirol, Tudur Parry: “Mae’r prisiau isel sy’n bodoli ar hyn o bryd yn anghynaladwy a bydd y diwydiant yn gweld hyd yn oed mwy o gwymp yn nifer y cynhyrchwyr gan fod y rhai mwyaf proffidiol yn ei chael yn anodd goroesi yn y farchnad bresennol.”

Ychwanegodd Swyddog Gweithredol Sirol UAC Sir Gaernarfon, Gwynedd Watkin: “Mae ffermwyr llaeth Cymru ymysg y gorau yn y byd ond eto mae’r llaeth yn parhau i gael ei ddibrisio gan yr archfarchnadoedd.

“Mae hyn yn anghyfiawnder i’r cynhyrchwyr llaeth sy’n hollol ymroddedig at gynhyrchu rhywbeth mor werthfawr.”