Mae’n ymddangos bod papur newydd The Sun wedi rhoi’r gorau i gyhoeddi lluniau o fenywod bronnoeth ar dudalen tri ar ôl 44 o flynyddoedd.

Mae’r papur newydd wedi bod dan bwysau gan wleidyddion ac ymgyrchwyr a oedd yn dweud bod y lluniau yn dangos amarch tuag at ferched.

Nid oes unrhyw luniau o fodelau bronnoeth wedi ymddangos ar dudalen tri ers dydd Gwener.