Llys y Goron yr Wyddgrug
Fe fydd dyn 25 oed yn mynd gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw ar gyhuddiad o geisio llofruddio mewn archfarchnad Tesco yn yr Wyddgrug.
Cafodd y gwrandawiad cychwynnol yn achos Zachary Peter Davies o’r Wyddgrug ei ohirio am 24 awr ddoe, yn dilyn dryswch ynglŷn â pha fargyfreithiwr oedd yno i’w gynrychioli.
Mae Davies wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio, yn dilyn ymosodiad ar Sarandev Brahanbra, 24 oed o Swydd Efrog yn yr archfarchnad ddydd Mercher diwethaf.
Mae’r heddlu yn credu bod cymhelliad hiliol y tu ôl i’r ymosodiad.