Atomfa niwclear Fukushima
Mae gweithiwr yn atomfa niwclear Fukushima Dai-ichi yn Siapan wedi marw ar ôl syrthio i danc storio dŵr.

Dywedodd cwmni Tokyo Electric Power Co, sy’n cynnal yr atomfa, bod y dyn 55 oed wedi marw o’i anafiadau ar ôl cwympo 33 troedfedd drwy agoriad yn y storfa dŵr.

Roedd yn un o dri o weithwyr oedd yn archwilio’r tanc. Mae ymchwiliad wedi dechrau i achos y ddamwain.

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ddamweiniau ar y safle wrth i weithwyr geisio clirio’r llanast yn dilyn trychineb Fukushima yn 2011.

Cafodd 40 o weithwyr eu hanafu’r llynedd rhwng mis Ebrill a Thachwedd, o’i gymharu â 12 yn y flwyddyn flaenorol. Mae pryder cynyddol bod mesurau diogelwch wedi cael eu llacio.

Mae bron i 7,000 o weithwyr yn ceisio dadgomisiynu’r atomfa.