Mae adroddiad newydd sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn atgyfnerthu’r cysylltiad rhwng ysmygu a marwolaethau sydyn diesboniad babanod yng Nghymru.
Mae’r adroddiad hefyd yn gwneud argymhellion ar sut mae lleihau’r risg o farwolaethau diesboniad mewn babis.
Mae ‘Marwolaethau Sydyn Annisgwyl Babanod – Adolygiad Thematig Cydweithredol 2010-2012’ a gynhaliwyd gan Raglen Adolygu Marwolaethau Plant ac Arolwg Amenedigol Cymru Gyfan wedi edrych yn fanwl ar 45 o farwolaethau sydyn diesboniad babanod yng Nghymru.
Mae’r adroddiad wedi canfod bod ysmygu’n ffactor risg mawr gyda 25 o’r 45 o fabanod sydd wedi marw ar aelwydydd sy’n ysmygu.
Awgryma hyn, er y cwymp sylweddol mewn achosion yn y 25 mlynedd ddiwethaf, y gellir gwneud mwy o hyd i leihau nifer y marwolaethau sydyn diesboniad mewn babanod.
Roedd genedigaeth gynnar a phwysau geni isel, oedran ieuengach y fam a chymeriant alcohol gan rieni yn y 24 awr cyn marwolaeth, i gyd hefyd yn risgiau sy’n gysylltiedig â’r marwolaethau gafodd eu hadolygu.
Canfuwyd hefyd bod rhieni’n cyd-gysgu gyda baban yn ffactor mawr pan oedd risgiau hysbys eraill yn bresennol.
Roedd cyfran uchel o’r marwolaethau a adolygwyd yn ystod mis cyntaf bywyd.
‘Gellir atal llawer mwy’
Esbonia awdur yr adroddiad, Dr Paul Davis, pediatrydd ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Er y camau breision a wnaethpwyd i leihau marwolaethau sydyn diesboniad babanod yng Nghymru, mae’r ffaith bod cymaint o farwolaethau’n gysylltiedig â ffactorau risg sy’n hysbys yn awgrymu y gellid atal llawer mwy.
“Yn benodol, roedd y gyfradd ysmygu ymysg rhieni’n ddychrynllyd o uchel ac ni ellir goramcangyfrif pwysigrwydd amgylchedd di-fwg i fabanod.
“Mae’n bwysig nad yw rhieni’n teimlo eu bod yn cael eu beio am farwolaeth eu baban. Nid dyna’r sefyllfa a thrwy ddiffiniad ni wyddom achos y marwolaethau hyn. Fodd bynnag, mae yna risgiau y gellir eu hosgoi a dylem i gyd weithio gyda’n gilydd i atal cymaint ag sydd bosib o’r trasiedïau hyn.”
Argymhellion
Mae’r adolygiad yn gwneud nifer o argymhellion allweddol i leihau’r risg o farwolaethau diesboniad mewn babanod, gan gynnwys:
– Dylai pob teulu sydd â babanod newydd barhau i dderbyn cyngor a chymorth – ond mae’n rhaid dod o hyd i ffyrdd mwy effeithiol o roi arweiniad ynglŷn â ffactorau sy’n arwain at farwolaethau diesboniad.
– Dylai Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid gryfhau eu hymdrechion i leihau ysmygu, yn enwedig mewn merched ifanc a rhieni yn ystod beichiogrwydd ac yn y flwyddyn gyntaf ar ôl geni.
– Dylai gweithwyr proffesiynol rheng flaen gael hyfforddiant fel eu bod yn deall negeseuon allweddol ar atal marwolaeth sydyn diesboniad babanod, gan gynnwys pwysigrwydd amgylchedd cysgu priodol.
– Dylid adolygu darpariaeth tai cymdeithasol i ofalu bod amodau’n ddigonol ar gyfer teuluoedd sydd â babanod ifanc, agored i niwed.
Bydd ystod o weithwyr proffesiynol iechyd, gofal cymdeithasol, yr heddlu a’r trydydd sector yn trafod yr adroddiad yn fanwl mewn Seminar Adolygu Marwolaeth Plant a gynhelir ym Mharc-y-Scarlets, Llanelli ar ddydd Iau, Ionawr 22.