Mae tîm achub mynydd Bannau Brycheiniog wedi apelio am gymorth ariannol i ddisodli cerbyd Land Rover a gafodd ei anfon i chwilio am ddyn neithiwr.

Cafodd y criw eu galw i fynydd Pen-y-fan yn dilyn adroddiadau bod dyn ar goll.

Cafwyd hyd i’r dyn ond cafodd y cerbyd ei ddinistrio ar ôl troi drosodd yn ystod y chwilio.

Ni chafodd unrhyw un ei anafu yn y digwyddiad.

Mae’r gwasanaeth wedi apelio am gymorth ariannol i brynu cerbyd newydd, ac maen nhw wedi cyhoeddi  manylion ynghylch sut i gyfrannu.