Menna Machreth o Gymdeithas yr Iaith
Fe fydd protest yn cael ei chynnal yn erbyn penderfyniad cymdeithas dai fwyaf Gwynedd i beidio â gwneud y Gymraeg yn amod wrth hysbysebu am ddwy o’u swyddi pwysica’.
Mae’r brotest yng Nghaernarfon ar 24 Ionawr yn cael ei threfnu gan Gymdeithas yr Iaith, Plaid Cymru Arfon, Dyfodol i’r Iaith a Chylch yr Iaith – sydd yn honni bod Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) wedi torri eu polisi iaith.
Fe fydd y brotest yn cael ei chynnal wedi i nifer o fudiadau ysgrifennu at CCG yn apelio ar i’r corff ail-ystyried, gan gefnogi safiad y Cynghorydd Siân Gwenllian sydd wedi ymddiswyddo o fwrdd y gymdeithas tai oherwydd y newid yn eu polisi.
‘Tanseilio egwyddor’
Dywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Rhanbarth Gwynedd – Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Maen nhw’n torri addewidion y gwnaethon nhw yn eu Cynllun Iaith drwy chwilio am swyddogion a fydd o bosib heb y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg.
“Y person gorau am y swydd fydd y person fydd yn gallu gwneud ei waith yn y Gymraeg ac yn gallu ymdrin â thenantiaid a chydweithwyr drwy’r Gymraeg.
“Drwy beidio â gwneud y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swyddi yma mae Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn tanseilio’r egwyddor fod y Gymraeg yn sgil hanfodol i weithio yng Ngwynedd, ac yn israddio eu gwasanaethau fel asiantaeth.”
Bydd y brotest yn cael ei chynnal ar Sgwâr y Pendist, Caernarfon am hanner dydd ar Ddydd Sadwrn, 24 Ionawr.