Rhodri Glyn Thomas
Wrth groesawu adroddiad yr ymchwiliad i Dâl Uwch-swyddogion gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, mae Plaid Cymru wedi dweud fod angen mwy o gysondeb mewn tâl ar draws llywodraeth leol.
Mae’r adroddiad yn gwneud 23 o argymhellion ynghylch sut i sicrhau bod penderfyniadau am drefniadau talu uwch-swyddogion yn atebol a thryloyw.
Mae llefarydd dros Lywodraeth Leol Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas yn croesawu’r ffaith fod tâl uwch swyddogion yn cael ei drafod yn agored erbyn hyn.
Meddai: “O ganlyniad i ymdrechion Plaid Cymru yn ystod y Bil Democratiaeth leol llynedd, yr ydym yn awr yn gweld tâl uwch-swyddogion yn cael ei drafod yn agored – cam enfawr ymlaen o’r adeg pan fyddai penderfyniadau o’r fath yn cael eu cymryd y tu ôl i ddrysau caeedig. Fodd bynnag, mae llawer o ffordd i fynd er mwyn gwneud tâl uwch-reolwyr yn decach a llawer mwy tryloyw.”
Wrth siarad yn y Cynulliad heddiw, bu AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn tynnu sylw at y gweithwyr sy’n cael y cyflogau uchaf ac isaf mewn llywodraeth leol.
Dywedodd fod cynghorau Ceredigion, Gwynedd a Chonwy ymysg y pedwar uchaf o ran cysondeb rhwng graddfeydd cyflogau gweithwyr y cyngor. Y pedwar awdurdod lleol mwyaf anghyfartal, yn eu trefn, yw Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Caerdydd a Rhondda Cynon Taf, meddai Plaid Cymru.
“Mae amrywiadau sylweddol rhwng cynghorau lleol lle mae gan awdurdodau tebyg o ran cymeriad a phroffil raddfeydd tâl sydd yn amrywio’n fawr. Yn Sir Benfro yr oedd y Prif Weithredwr gyda’r tal uchaf, dros £190,000. Ond mae Prif Weithredwr y cyngor cyfagos, Ceredigion, yn cael tâl o £108,000.
“Mae amrywiadau mawr mewn cymarebau cyflog o fewn cynghorau, gyda chynghorau Penfro a Chaerfyrddin yn talu eu Prif Weithredwyr fwy na deuddeg gwaith yn fwy na’r hyn a delir i’r gweithiwr ar y cyflog isaf.”
Wrth groesawu argymhellion yr adroddiad, dywedodd Rhodri Glyn Thomas wrth Aelodau’r Cynulliad y dylid dileu ffioedd ychwanegol sy’n cael eu talu i swyddogion cyngor i ymgymryd â dyletswyddau etholiadol fel Swyddogion Canlyniadau.
Meddai: “Nid yw Cyngor Abertawe yn talu’r un geiniog i’w prif weithredwr i ymgymryd â dyletswyddau etholiadol, ac nid ydym yn gweld pam y dylai eraill ennill hyd at ddegau o filoedd o bunnoedd yn ychwanegol at eu swyddi sydd eisoes yn talu’n dda iawn.”
Cyflog Byw
Ychwanegodd, “Rydym eisiau i bob corff cyhoeddus dalu’r cyflog byw cyn gynted ag y mae eu cyllid yn caniatáu. Mewn rhai cynghorau, cymerwyd camau eisoes i godi cyflogau’r rhai sy’n cael eu talu leiaf.
Gwaetha’r modd, er hynny, y rhai sydd eisoes wedi cyflwyno’r cyflog byw yw’r rhai sydd fwyaf anghyfartal o ran tâl eu huwch-swyddogion. Dyna pam fod arnom angen mwy o gysondeb rhwng pob awdurdod, yn hytrach na chystadlu rhyngddynt.”
Cafodd Plaid Cymru ei chyhuddo o “ragrith” yn ddiweddar gan y Democratiaid Rhyddfrydol ar ôl darganfod nad oedd awdurdodau lleol sy’n cael eu harwain gan Blaid Cymru yn talu cyflog byw i 4,000 o weithwyr, gyda 600 ar gytundebau heb sicrwydd oriau.