Joanne Mjadzelics
Mae’r rheithgor yn achos cyn-gariad Ian Waktins yn parhau i ystyried eu dyfarniad am y trydydd diwrnod yn olynol.
Yn Llys y Goron Caerdydd, mae Joanne Mjadzelics yn cael ei chyhuddo o saith cyhuddiad sy’n cynnwys annog cyn-ganwr y Lost Prophets, Ian Watkins, i anfon delweddau anweddus o blant ati hi.
Mae hi’n gwadu’r cyhuddiadau, gan ddweud mai ceisio casglu tystiolaeth yn erbyn Watkins oedd hi.
Ddoe, fe ddywedodd y Barnwr Eleri Rees ei bod yn fodlon derbyn dyfarniad y mwyafrif.