Nathan Gill
Fe fydd Nathan Gill yn sefyll fel ymgeisydd UKIP ym Môn yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.
Cadarnhaodd yr Aelod Seneddol Ewropeaidd ei enwebiad wrth Golwg360 heddiw, gan ddweud bod y gangen leol wedi rhoi sêl bendith iddo ddydd Sadwrn.
Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Ewropeaidd yn 2014, yn dilyn penderfyniad John Bufton i roi’r gorau iddi cyn yr etholiad diwethaf.
Bellach, Gill yw arweinydd UKIP yng Nghymru.
Cyn mentro i Frwsel, safodd Gill fel ymgeisydd yn etholiadau’r cyngor sir yn ward Llanbedrgoch yn 2012, ac yn Seiriol y flwyddyn ganlynol.
Roedd Gill yn drydydd yn y ras am sedd Aelod Cynulliad Ynys Môn, y sedd a gipiodd Rhun ap Iorwerth.