Y difrod wedi'r corwynt yn Hwlffordd
Cafodd dau o bobol eu cludo i’r ysbyty yn dilyn tornado yn ardal Hwlffordd neithiwr.

Roedd y ddau yn dioddef o sgil effeithiau sioc.

Cafodd 24 o gartrefi hefyd eu difrodi yn y tywydd garw tua 7yh neithiwr.

Roedd toeon rhai adeiladau wedi’u difrodi ond dywed y gwasanaeth tan eu bod wedi eu gwneud yn ddiogel erbyn hyn.

Roedd eira trwm mewn rhai ardaloedd o Sir Benfro yn ystod y dydd ddoe ac roedd rhybudd gan y Cyngor Sir am dywydd garw dros nos, yn enwedig mellt a tharanau.

Roedd cesair mewn rhai ardaloedd o’r sir ddoe hefyd.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew yn rhannau helaeth o Gymru’r bore ma ac mae rhybudd i yrwyr fod yn wyliadwrus.