Bydd Heddlu Gogledd Cymru’n cau mynwent heddiw er mwyn codi corff all fod yn ddynes aeth ar goll 35 mlynedd yn ôl.
Aeth Priscilla Berry, 39 oed, o Fochdre, ar goll o’i chartref yn 1978. Mae’r heddlu nawr yn credu mai ei chorff hi gafodd ei ddarganfod oddi ar arfordir Llandudno yn 1980.
Mae Heddlu’r Gogledd wedi dweud eu bod nhw’n gobeithio y bydd technoleg DNA yn eu helpu i adnabod y corff ym Mynwent Llangystennin yn Nyffryn Conwy wrth iddyn nhw godi’r corff heddiw.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Don Kenyon sy’n arwain yr ymchwiliad ar ran Heddlu Gogledd Cymru: “Mae ein hymholiadau yn awgrymu posibilrwydd da mai gweddillion Priscilla Berry sydd yno ac ar ôl i’r cyfryngau lleol ein helpu ni i adnabod aelodau o’i theulu, rwy wedi eu diweddaru gyda’r datblygiadau.
“Bydd y broses yn cynnwys cael samplau DNA yn ofalus o’r corff er mwyn eu cymharu gyda DNA gan unigolion o deulu Priscilla Berry.”