Joanne Mjadzelics
Bydd y rheithgor yn achos cyn gariad y pedoffeil Ian Watkins yn parhau i ystyried eu dyfarniad heddiw.

Maen nhw’n  ystyried a oedd gan Joanne Mjadzelics, 39, reswm cyfreithiol dros fod a lluniau anweddus yn ei meddiant.

Yn Llys y Goron Caerdydd yr wythnos diwethaf, fe wnaeth Joanne Mjadzelics, sydd o Doncaster, dderbyn ei bod wedi gofyn i Ian Watkins anfon y delweddau ati hi – ond mae hi’n mynnu bod hynny mewn ymdrech i gasglu tystiolaeth yn ei erbyn.

Mae hi’n gwadu’r saith cyhuddiad yn ei herbyn, sydd hefyd yn cynnwys dosbarthu a bod a delweddau anweddus o blant yn ei meddiant.

Yn ystod yr achos, dywedodd yr erlynydd James Davies wrth y rheithgor bod fideo ohoni hi a’i chyn-gariad yn dangos y ddau yn trafod cael plentyn gyda’i gilydd er mwyn ei gam-drin.

Clywodd y llys hefyd ei bod hi wedi gwirioni hefo Ian Watkins ac y buasai’n gwneud unrhyw beth i’w blesio.

Cafodd Ian Watkins o Bontypridd ei garcharu am 35 mlynedd ym mis Rhagfyr y llynedd ar ôl cyfaddef i gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant, gan gynnwys ceisio treisio babi.