Bu’r gwasanaethau brys yn chwilio’r Afon Taf yng Nghaerdydd neithiwr yn dilyn adroddiadau bod corff wedi ei weld yn yr afon gan aelod o’r cyhoedd.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i’r safle ar lan yr afon, ger Ffordd Penarth, tua 8:30 neithiwr.
Bu’n rhaid rhoi’r gorau i’r chwilio oherwydd bod llif y dŵr a thywydd gwael yn gwneud y chwilio’n beryglus.
Mae disgwyl i’r chwilio barhau y bore ma a bydd yr heddlu yn gwneud datganiad ar y digwyddiad yn hwyrach.