Llun: Liberation
Mae’r cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo am gyhoeddi cartŵn o’r Proffwyd Mohammed ar glawr ei rhifyn cyntaf ers i frawychwyr Islamaidd ladd 12 o bobl yn ei swyddfeydd wythnos ddiwethaf.

Mae staff y cylchgrawn wedi bod yn gweithio yn swyddfeydd papur newydd Liberation wrth iddyn nhw baratoi’r rhifyn diweddaraf, ac maen nhw’n bwriadu argraffu 3 miliwn o gopïau mewn nifer o ieithoedd, yn hytrach na’r 60,000 arferol.

Fe wnaeth Liberation gyhoeddi clawr diweddaraf Charlie Hebdo er ei wefan neithiwr, cyn i’r cylchgrawn gael ei gyhoeddi yfory.

Mae’r cartŵn yn dangos y Proffwyd Mohammed gyda deigryn yn ei lygad. Mae’n dal arwydd gyda “Je suis Charlie” arno. Uwchben y cartŵn mae’r ymadrodd “Tout est Pardonne” (Maddeuant am bopeth).

Mae’r wasg yn Ffrainc wedi dehongli hynny i olygu fod y Proffwyd Mohammed yn maddau i’r cartwnwyr am ei ddychanu.

Mae’n debygol mai cartwnau eraill o’r proffwyd Mwslimaidd, a gyhoeddwyd gan Charlie Hebdo yn y gorffennol, wnaeth ysgogi’r ymosodiadau’r wythnos diwethaf.

Bu farw 17 o bobl i gyd wrth i’r brodyr Cherif a Said Kouachi, ac Amedy Coulibaly, ymosod ar swyddfeydd Charlie Hebdo ac archfarchnad Iddewig ym Mharis. Bu farw’r tri dyn arfog mewn cyrchoedd gan yr heddlu ddydd Gwener.

Mae heddlu Ffrainc wedi dweud y gallai cymaint â chwe aelod o’r un gell brawychol, wnaeth cymryd rhan yn yr ymosodiadau, fod ar ffo o hyd.