Mae penderfyniad San Steffan i wrthod rhoi baner Cymru yn hytrach na baner Jac yr Undeb ar drwyddedau gyrru yn “sarhad ar Gymru fel cenedl”, yn ôl un AS.

Cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan heddiw y byddai’r gost o argraffu baner y ddraig goch “yn ormod” ac y bydd baner yr Undeb yn cael ei roi ar drwyddedau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Mae gweinidogion yng Ngogledd Iwerddon wedi gwrthod y penderfyniad, yn ôl y BBC.

Roedd dros 5,700 o bobol wedi arwyddo deiseb ar-lein yn galw am roi’r ddraig goch yn hytrach na Jac yr Undeb ar y trwyddedau newydd.

‘Sarhad’

Dywedodd Elfyn Llwyd wrth golwg360 bod y penderfyniad yn “dangos diffyg sensitifrwydd Llywodraeth Llundain tuag at lefydd y tu allan i Loegr”:

“Mae’n hollol annerbyniol ac yn sarhad arnom ni fel cenedl,” ychwanegodd.

“Dw i ddim yn derbyn bod yna unrhyw esgus dros beidio rhoi opsiwn i bobol roi naill ai’r ddraig goch neu beth bynnag maen nhw eisiau ar eu trwydded.

“Gofyn am yr opsiwn yma oeddem ni ac mae’n warthus na fydden nhw’n ei roi.”

Roedd Llywodraeth wedi ymateb ar ôl cwestiwn Seneddol gan AS Plaid Cymru, Hywel Williams.

‘Siom’

Wrth ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth San Steffan, dywedodd Hywel Williams: “Bydd nifer o bobl yn rhannu fy siom yn sgil cadarnhad Llywodraeth y DG na fydd pobl yn cael dewis pa faner fydd yn ymddangos ar eu trwydded yrru.

“Mae’r honiad mai cost yw’r rheswm sydd y tu ôl i hyn yn rhyfedd dros ben. Pwy wyddai fod newid lliw inc o las i wyrdd yn medru bod mor ddrud!

“Mae tua 6,000 llofnod ar y ddeiseb bellach ac rwyf yn cydlynu gyda threfnydd y ddeiseb i’w chyflwyno yn Llundain. Byddaf yn gwneud cais am ddadl ar y pwnc yma.

“Gwn fod nifer o bobl ifanc yn anhapus iawn y bydd rhaid iddynt dderbyn Jac yr Undeb ar eu trwyddedau newydd. Gwn fod nifer yn edrych am fodd o brotestio yn erbyn y penderfyniad hwn a gwn y byddant yn barod iawn eu cefnogaeth.”

‘Tanseilio hunaniaeth cenhedloedd bychain’

Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: “Mae penderfyniad Llywodraeth San Steffan i wthio hwn drwyddo er gwaetha’r gwrthwynebiad cryf o’r Alban a Chymru yn dangos ansensitifrwydd ac amarch at nifer fawr o’r boblogaeth.

“Mewn cyfnod o gwtogi ariannol mae’n syndod mawr fod y Llywodraeth yn Llundain yn meddwl ei fod yn iawn i wastraffu arian ar gynnwys unrhyw faner ar y drwydded yrru, heb sôn am ei wneud mewn ffordd sydd hefyd yn tanseilio hunaniaeth cenhedloedd bychain.”