David Cameron
Fe fydd heddlu a gwasanaethau diogelwch Prydain yn cynnal ymarferion sy’n cynnwys golygfeydd tebyg i’r ymosodiadau brawychol diweddar ym Mharis yn y dyfodol, yn ôl Stryd Downing.

Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi cynnal trafodaethau gyda phenaethiaid asiantaethau diogelwch ynglŷn â’r bygythiad presennol sy’n wynebu Prydain, wedi i 17 o bobol gael eu lladd gan frawychwyr ym mhrif ddinas Ffrainc yr wythnos diwethaf.

Yn dilyn y trafodaethau, dywedodd llefarydd ar ran Stryd Downing y bydd ymarferion cyson yn cael eu cynnal er mwyn ceisio dysgu gwersi o’r gyflafan yn swyddfa’r cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo.

Roedd David Cameron hefyd wedi pwysleisio’r angen i’r heddlu fedru galw am gymorth gan y fyddin pe bai argyfwng tebyg yn digwydd ym Mhrydain.

Cyd-weithio

“Fe wnaeth aelodau’r cyfarfod gytuno y dylai’r asiantaethau perthnasol benderfynu os oes agweddau o’r ymosodiadau ym Mharis y dylid eu hychwanegu at ymarferion yn y dyfodol,” meddai llefarydd.

“Yn ogystal, gofynnodd y Prif Weinidog i’r heddlu a’r fyddin i barhau i gyd-weithio er mwyn sicrhau bod yr heddlu yn medru galw am gymorth ychwanegol pan fo’r angen.”

Mae 10,000 o filwyr yn gwarchod safleoedd yn Ffrainc ar hyn o bryd, sy’n cynnwys 717 o ysgolion Iddewig.