Bydd ymgynghoriad ar gyllideb Cyngor Caerdydd ar gyfer 2015/16 yn dod i ben am hanner dydd heddiw.
Mae’r cyngor wedi dweud ei fod yn wynebu diffyg o £124m yn ei gyllideb dros y tair blynedd nesaf.
Mae arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Phil Bale eisoes wedi dweud na all y cyngor “ddal ati i gynnig gwasanaethau yn yr un ffordd ag yr ydym ar hyn o bryd.”
Mae’r ymgynghoriad wedi bod ar agor ers 5 Rhagfyr ac roedd y cyngor yn gwahodd pobl sy’n byw ac yn gweithio yn y ddinas i nodi eu sylwadau a’u pryderon ar wefan yr awdurdod lleol.
Ymysg y cynigion sydd wedi cael eu cynnig ar gyfer toriadau mae torri cyllid i ganolfannau celfyddydol a chanolfannau hamdden, cau rhai llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol, a stopio rhoi cyllid i ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn y brifddinas.
Mae disgwyl i’r cyngor llawn drafod y gyllideb ar 26 Chwefror.