Cwrw Pombe
Mae llywodraeth Mozambique wedi cyhoeddi tridiau o alaru ar ôl i 69 o bobl farw ar ôl yfed cwrw oedd wedi’i wenwyno yn ystod angladd dros y penwythnos.
Mae tua 196 o bobl wedi mynd i’r ysbyty yn nhalaith Tete yn dioddef o’r dolur rhydd a phoenau yn eu cyhyrau, meddai’r cyfarwyddwr lles Paulo Bernando.
Mae swyddogion iechyd lleol yn dweud bod 56 o bobl wedi marw, a 49 yn cael triniaeth yn yr ysbyty.
Mae Pombe yn gwrw traddodiadol ac mae’r awdurdodau’n credu ei fod wedi cael ei wenwyno rywbryd yn ystod yr angladd ddydd Sadwrn.
Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad i geisio darganfod beth yw tarddiad y gwenwyn gyda rhai’n awgrymu y gallai’r cwrw fod wedi’i wenwyno gyda bustl crocodeil.
Mae samplau o’r cwrw a gwaed wedi cael eu hanfon i’r brifddinas Maputo ar gyfer profion.
Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd tridiau o alaru yn dechrau heddiw.