Joanne Mjadzelics
Mae’r areithiau cloi wedi dechrau cael eu cyflwyno yn achos Joanne Mjadzelics, cyn-gariad y pedoffeil Ian Watkins, sy’n cael ei chyhuddo o ddosbarthu a bod a delweddau anweddus o blant yn ei meddiant.

Yn Llys y Goron Caerdydd yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd Joanne Mjadzelics o Doncaster bod y delweddau yn ei meddiant am ei bod wedi  ceisio casglu tystiolaeth yn erbyn cyn-ganwr y Lostprophets.

Mae hi’n gwadu’r saith cyhuddiad yn ei herbyn, sydd hefyd yn cynnwys annog Watkins i anfon delwedd anweddus ati hi.

Dywedodd yr erlynydd James Davies wrth y rheithgor bod fideo ohoni hi a’i chyn-gariad yn dangos y ddau yn trafod cael plentyn gyda’i gilydd er mwyn ei gam-drin.

Cafodd Ian Watkins o Bontypridd ei garcharu am 35 mlynedd ym mis Rhagfyr y llynedd ar ôl cyfaddef i gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant, gan gynnwys ceisio treisio babi.

Mae disgwyl i’r dyfarniad gael ei gyhoeddi yn y dyddiau nesaf.