Iola Wyn
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi bod y darlledwyr Heledd Cynwal a Iola Wyn ymysg pobl adnabyddus sydd wedi cytuno i gynorthwyo’r gymdeithas i wneud yn siŵr bod Cyngor Sir Gâr yn hybu’r Gymraeg.
Bydd actorion fel Rhian Morgan a Dewi Williams a’r Parchedig Beti Wyn James hefyd yn ymgymryd â’r gwaith.
Ers i ganlyniadau’r cyfrifiad ddangos bod cwymp o 6,000 wedi bod yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin ers 2001, mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn annog y cyngor i wneud mwy i hyrwyddo’r iaith.
‘Gwaith eto i’w wneud’
“Mae’r pwysau mae aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith wedi ei roi ar y cyngor hyd yn hyn wedi golygu sefydlu Gweithgor, derbyn argymhellion a rhoi cynllun i’w gweithredu mewn lle,” meddai Sioned Elin o Gymdeithas yr Iaith.
“Ond mae gwaith eto i’w wneud i sicrhau fod y gwaith yn mynd yn ei flaen a bod adeiladu arno er mwyn cryfhau’r Gymraeg a chymunedau Sir Gâr.”
Bydd cyfarfod i drafod y sefyllfa ymhellach yn cael ei gynnal yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin am 10.30, fore Sadwrn 17 Ionawr.