Mae ymgyrch newydd i helpu teuluoedd ar draws Cymru i fwyta ac yfed llai o siwgr bob wythnos wedi cael ei lansio heddiw.

Mae ymgyrch Newid am Oes wedi cael ei anelu at deuluoedd gyda phlant sydd rhwng pedair ac 11 mlwydd oed ac mae’n cynnig cyngor ar sut i fwyta llai o fwydydd a diodydd llawn siwgr a gwneud dewisiadau iachach.

Mae’r rhain yn cynnwys cael jeli neu iogwrt yn lle hufen iâ, a bisgedi gwenith cyflawn yn lle cacennau.

Gall pobl gofrestru ar gyfer pecyn rhad ac am ddim i’w helpu sy’n cynnwys cyngor ar sut i newid eu harferion bwyta er gwell.

Pop

Mae doctoriaid yn dweud na ddylai mwy na 10% o’r calorïau mae rhywun yn ei fwyta bob dydd ddod o siwgr – mae hynny gyfwerth â 11 i 14 llwy de o siwgr y dydd.

Gall can o bop gynnwys naw llwy de o siwgr, gyda hyd at 40 llwy de o siwgr mewn potel dau litr.

Mae’r ffigurau diweddaraf hefyd yn dangos fod 40% o blant rhwng saith ac 11 oed yng Nghymru yn ordew neu dros eu pwysau.

‘Effaith enfawr ar iechyd’

Dywedodd Prif  Swyddog Meddygol Cymru, Dr Ruth Hussey: “Mae pobl ledled Cymru yn bwyta gormod o siwgr. Mae’n syndod faint o siwgr sydd mewn rhai o’r bwydydd a diodydd rydym ni’n eu rhoi i’n plant a gall yr arferion bwyta yma gael effaith enfawr ar eu hiechyd.

“Gyda’r ymgyrch newydd yma, rydym yn ni’n helpu teuluoedd i gymryd camau bach er mwyn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau eu plant.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Newid am Oes: