Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun newydd er mwyn ceisio lleihau nifer y bobol yng nghymunedau “mwyaf difreintiedig” Cymru sy’n marw cyn eu hamser.

Bwriad cynllun Byw’n Hirach, Byw’n Well yw codi disgwyliad oes pobol ym Mlaenau Gwent a chynyddu eu siawns o oroesi clefydau ar y galon neu ganser.

Mae gwahaniaeth sylweddol rhwng y gyfradd o farwolaethau y mae modd eu hosgoi yn yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig Cymru, yn ôl y Llywodraeth. Yng Nghymru, 78 oed yw disgwyliad oes i ddyn, ond ym Mlaenau Gwent, 75 oed yw’r cyfartaledd – un o’r pump isaf yng Nghymru a Lloegr.

Wrth lansio’r cynllun heddiw, dirprwy weinidog iechyd, Vaughan Gething, bod angen gwneud mwy i ddelio hefo’r anghydraddoldeb yn y safon byw mewn gwahanol ardaloedd.

Sut?

Mae gwaith ymchwil wedi darganfod mai clefydau cardiofasgiwlar a chanser yw prif achosion o farwolaeth cyn amser ym Mlaenau Gwent.

Bydd pobol sy’n rhan o’r cynllun yn cael cynnig prawf iechyd fydd yn cynnwys cwestiynau am eu ffordd o fyw a’u hanes teuluol, ynghyd â phrofion pwysau gwaed, curiad calon a cholesterol.

Bydd canlyniadau’r profion yn cael eu defnyddio er mwyn creu rhestr o gamau sydd angen eu cymryd i leihau’r risg o glefyd cardiofasgiwlar neu ganser.

Arwain

“Fe ellir gwneud llawer drwy fynd at wraidd yr anghydraddoldebau – drwy wella diet, gwneud mwy o ymarfer corff, rhoi’r gorau i ysmygu ac yfed alcohol yn gymedrol.

“Cafodd byrddau iechyd prifysgol Aneurin Bevan a Chwm Taf eu dewis i arwain y cynllun oherwydd bod yr ardaloedd yma’n gweld rhai o’r anghydraddoldebau mwyaf. Bydd casgliadau’r cynllun Byw’n hirach, Byw’n Well yn helpu i ddatblygu gwaith tebyg ar draws Cymru.”