Mae cannoedd o dai wedi colli cyflenwad trydan yn ne a chanolbarth Cymru yn sgil tywydd garw dros nos.

Mae Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru hefyd wedi cyhoeddi bod Pont Windsor yng Nghaerdydd ar gau ar hyn o bryd.

Dywedodd cwmni trydan Western Power Distribution ei fod yn gobeithio adfer y cysylltiad  – sydd wedi effeithio cartrefi  yn bennaf ym Merthyr Tudful, Aberteifi ac Y Fenni – erbyn diwedd y prynhawn.

Yn y gogledd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybuddion melyn o wynt a glaw ar draws yr ardal. Mae pobol yn Llanuwchllyn, Llangollen a Llanrwst yn cael eu cynghori i fod yn ofalus tra’n gyrru ar y ffyrdd.

Mae cyfyngiadau cyflymder ar Bont Britannia yn Ynys Môn ac mae rhai teithiau fferi o Gaergybi wedi cael eu canslo.

Mae disgwyl i’r tywydd stormus barhau tan ddydd Iau wrth i wasgedd isel daro Cymru.