Mae dau o bobl wedi marw a phedwar o bobl eraill wedi eu taro’n wael ar ôl i nitrogen ollwng yn ffatri LG Display ym mhrifddinas De Corea, Seoul, meddai’r cwmni heddiw.
Dywedodd y cwmni technoleg bod y chwe aelod o staff, a oedd yn cael eu cyflogi gan un o gontractwyr LG, wedi bod yn gwneud gwaith cynnal a chadw pan ddigwyddodd y ddamwain toc wedi hanner dydd yn y ffatri yn ninas Paju.
Mae un o’r rhai gafodd eu taro’n wael mewn cyflwr difrifol.
Mae’r ffatri lle digwyddodd y ddamwain yn cynhyrchu sgriniau teledu LCD.
Mae’r cwmni wedi dweud y bydd yn cydweithredu gyda’r awdurdodau i geisio darganfod beth achosodd i’r nitrogen ollwng.