Elfyn Llwyd AS
“Sarhad” i’r rhai fu farw yn Irac yw’r penderfyniad i ohirio cyhoeddi adroddiad am y rhyfel tan ar ôl yr etholiad cyffredinol, yn ôl Aelod Seneddol Plaid Cymru, Elfyn Llwyd.
Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd wedi galw am gyhoeddi adroddiad Comisiwn Chilcot cyn mis Mai.
Yr wythnos diwethaf, dywedodd prif weinidog Prydain, David Cameron nad oedd ganddo’r grym i gyhoeddi’r adroddiad, a bod angen aros i roi’r cyfle i bawb ymateb iddo.
Ond mae Elfyn Llwyd wedi wfftio’r sylwadau.
Dywedodd wrth raglen Sunday Politics y BBC heddiw: “Dydy hynny ddim yn wir. Cyn gynted ag y bo’r adroddiad yn barod, mae’r amseru i fyny i’r prif weinidog.
“Ac mae’n ymddangos i mi fod gynnon ni fis Mawrth i gyd heb fawr ddim wedi’i gynllunio ar ei gyfer o.
“Mi allen ni drafod yr adroddiad pwysig iawn hwn.
“Mae methu â gwneud hynny’n tanseilio hygrededd yr adroddiad ac rwy’n meddwl ei fod yn sarhad i’r rhai a gollodd anwyliaid yn y gwrthdaro.”