Fe fydd Prif Weinidog Prydain, David Cameron yn cyfarfod â phenaethiaid diogelwch yfory i drafod camau posib i amddiffyn gwledydd Prydain rhag ymosodiadau brawychol.
Mae Cameron ym Mharis heddiw ar gyfer y rali sydd wedi’i threfnu er cof am y rhai fu farw yn y gyflafan ym mhrifddinas Ffrainc yr wythnos hon.
Dywedodd fod gwledydd Prydain yn wynebu’r bygythiad o ymosodiad tebyg a bod angen dysgu gwersi o’r hyn ddigwyddodd yn Ffrainc.
Yn gynharach yr wythnos hon, rhybuddiodd pennaeth MI5, Andrew Parker fod al-Qaida yn Syria yn cynllwynio i ymosod ar y Gorllewin.
Mae pwysau ar Cameron i ail-gyflwyno deddf cyfathrebu a fyddai’n rhoi mwy o rym i Lywodraeth Prydain graffu ar ddulliau cyfathrebu unigolion sy’n cael eu hamau o fod â rhan mewn brawychiaeth.
Cyn y rali heddiw, dywedodd David Cameron: “Mae pethau o hyd i’w dysgu ac mae’n bwysig drwy’r amser i ni edrych ar yr hyn ddigwyddodd yn Ffrainc a meddwl am y sefyllfaoedd hynny a sefyllfaoedd tebyg: sut fydden ni’n ymateb, pa mor barod ydyn ni.”