Bydd tri grŵp annibynnol yn rheoli Cyngor Sir Powys o ddydd Llun ymlaen.
Mae’r Grŵp Anwleidyddol, Cynghrair Annibynnol Powys a’r Grŵp Annibynnol wedi uno i ffurfio clymblaid.
Fe fydd yr arweinydd presennol, Barry Thomas yn parhau yn ei waith, tra bydd Wynne Jones yn ymgymryd â swydd y dirprwy arweinydd.
Mae’r cytundeb yn golygu bod gan y grwpiau annibynnol fwyafrif yn y Cyngor.