Mae dyn wedi cael ei arestio yn dilyn marwolaeth dynes oedd yn cerdded ar hyd traffordd yr M25 yn oriau man y bore ma.

Cafodd y ddynes, oedd yn ei 30au, ei tharo gan gar ger cyffordd 13 yn Swydd Surrey toc cyn 3 o’r gloch, ac mi fu farw yn y fan a’r lle.

Cafodd gyrrwr Volkswagen Golf du a gafodd ei ddarganfod yn y cyffiniau ei arestio am beidio stopio yn dilyn y gwrthdrawiad, ac am ei fod o dan ddylanwad alcohol.

Mae’r dyn yn cael ei holi y ddalfa.

Mae’r M25 bellach ar agor ac mae’r heddlu’n apelio am dystion i’r digwyddiad hwn ac i wrthdrawiad arall rhwng cyffordd 13 a chyffordd 14 yn fuan wedi’r gwrthdrawiad cyntaf.

Yn yr ail wrthdrawiad, cafodd un gyrrwr anafiadau i’w wddf a chafodd y gyrrwr arall anafiadau difrifol i’w goes.