Mae’r heddlu yn Ffrainc yn dweud bod y dyn a saethodd pedwar o bobol yn farw mewn archfarchnad Iddewig ym Mharis hefyd yn gyfrifol am saethu lonciwr ar gyrion y ddinas ar yr un diwrnod â’r ymosodiad ar swyddfeydd y cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo.

Cafodd y lonciwr ei anafu’n ddifrifol wedi iddo gael ei saethu mewn ymosodiad yn Fontenay aux Roses, ac mae profion wedi dangos mai’r un dryll a gafodd ei ddefnyddio yn y ddau ddigwyddiad.

Cafodd y brawychwr Amedy Coulibaly ei saethu’n farw gan yr heddlu yn yr archfarchnad.