Mae fideo wedi ymddangos o un o frawychwyr Paris yn pledio cefnogaeth i’r Wladwriaeth Islamaidd, gan ddweud bod cyfiawnhad tros yr ymosodiadau yn Ffrainc yr wythnos hon.
Cafodd y fideo ei llwytho i wefan Twitter y bore ma, ddeuddydd wedi i Amedy Coulibaly, 32, ymosod ar archfarchnad Iddewig gan ladd pedwar o bobol.
Yn y fideo, caiff Coulibaly ei weld yn gwisgo gwisg Islamaidd draddodiadol a gwisg filwrol, ac mae’n dal arfau ac yn trafod ei waith gyda’r brodyr Kouachi oedd wedi lladd 12 o bobol mewn ymosodiad ar swyddfeydd y cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo.
Mae’r fideo hefyd yn honni bod Coulibaly yn gyfrifol am ffrwydro car ym mhrifddinas Ffrainc.
Mae Coulibaly i’w weld yn darllen o sgript o flaen delwedd o logo’r Wladwriaeth Islamaidd.